Nid yw eich Trwydded Teledu yn symud gyda chi yn awtomatig, felly defnyddiwch ein adran diweddaru eich manylion i ni allu sicrhau eich bod yn cael trwydded gywir yn eich cyfeiriad newydd. Bydd angen i chi gael eich cyfenw, rhif Trwydded Teledu a'ch cod post wrth law. Ddim yn gwybod eich rhif trwydded?
Unwaith y byddwn wedi derbyn manylion eich cyfeiriad newydd, byddwn yn trosglwyddo eich Trwydded Teledu presennol ond ni fyddwn yn anfon trwydded newydd atoch. Bydd eich rhif Trwydded Teledu yn aros yr un peth.
Os ydych yn talu am Drwydded Teledu rhywun arall drwy Dalu Uniongyrchol ac ydych yn symud, gallwch newid eich cyfeiriad, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn ar-lein gan ddefnyddio ein adran diweddaru eich manylion . Bydd angen i chi gael cyfenw'r deiliad Trwydded Teledu, cod post a rhif Trwydded Teledu. Yna gallwn sicrhau ein bod yn anfon unrhyw wybodaeth talu Dalu Uniongyrchol yn y dyfodol i'ch cyfeiriad cywir.
Rhowch wybod i ni os ydych eisoes wedi datgan nad oes angen trwydded arnoch ac rydych yn symud cartref.
Sylwadau
0 sylw
Plîs mewngofnodi i adael sylw.